Nodi unigolion sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu

URN: SFJ BB3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfiawnder Ieuenctid, Ailsefydlu Troseddwyr
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau eraill i nodi unigolion sydd mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu droseddu.

Mae'r safon hon yn cyfeirio at ymddygiad problematig unigolion. Gall hyn fod yn wrthgymdeithasol, yn heriol neu’n droseddol, ac mae'n golygu bod yr unigolyn mewn perygl o droseddu/aildroseddu.

Pan ddefnyddir offeryn asesu, gall hwn fod ar bapur a/neu’n electronig.

Grŵp targed
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rhai sy'n gyfrifol am atal ymddygiad gwrthgymdeithasol / troseddu gan unigolion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. cysylltu ag ysgolion lleol, yr heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill i adnabod unigolion ag ymddygiad problematig

P2. nodi pam mae'r asiantaethau yn ystyried bod ymddygiad unigolion penodol yn broblemus

P3. casglu gwybodaeth berthnasol o ffynonellau eraill am yr unigolion a nodwyd

P4. asesu a yw ymddygiad yr unigolyn ac effaith yr ymddygiad yn broblem

P5. adolygu amgylchiadau i nodi ffactorau a allai fod yn cyfrannu at yr ymddygiad

P6. nodi unigolion lle mae risg cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu yn deilwng o asesiad pellach, a nodi cyfiawnhad rhesymedig

P7. argymell i'r person perthnasol yn eich sefydliad y camau i'w cymryd a chytuno ar y ffordd ymlaen

P8. diweddaru asiantaethau perthnasol ar gynnydd o fewn amserlenni gofynnol 

P9. cadw cofnodion cywir a chyfredol o gynnydd

P10. defnyddio offer asesu safonedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. canllawiau cyfreithiol, rheoleiddiol a chysylltiedig sy'n mynd i'r afael ag atal ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu, gan gynnwys:
         K1.1    eu cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
         K1.2    eu heffaith ar eich gwaith gydag asiantaethau eraill

K2. yr ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill sy'n gallu adnabod unigolion sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu

K3. arwyddion o ymddygiad problemus

K4. gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer ymdrin ag achosion lle mae ymddygiad problematig yn cael ei nodi

K5. ffactorau a allai gyfrannu at ymddygiad problematig a phwysigrwydd mynd i'r afael â'r rhain yn effeithiol

K6. ffynonellau gwybodaeth tuag at archwilio amgylchiadau unigolion sy'n arddangos ymddygiad problematig

K7. pwysigrwydd gwahaniaethu rhwng ffaith a barn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ BB3

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, Uwch Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithiwr Tîm Troseddwyr Ifanc, Ymarferydd Cyfiawnder Ieuenctid, Uwch Weithiwr Tîm Troseddwyr Ifanc, Uwch Ymarferydd Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Tîm Troseddwyr Ifanc

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Risg; gwrthgymdeithasol; troseddu; ymddygiad; ieuenctid